![]() |
![]() |
![]() |
|||||
Datganiad i’r
Wasg |
|||||||
Atgyfodi'r hen gerdd dant ar ôl 400 mlynedd
| |||||||
Cerddoriaeth o Lawysgrif
Robert ap Huw Cyfrol 1 CD Newydd gan Paul Dooley |
|||||||
Calluragh Dwyrain, Ennistymon, Swydd Clare, Eire. |
15/12/04 |
||||||
O gwmpas y flwyddyn 1613, copïodd Robert ap Huw, telynor ifanc o Fôn, drawsgrifiadau o gerddoriaeth delyn hynafol Cymru. Ei lawysgrif (Lbl Add. MS 14905) yw’r cyfan sydd wedi goroesi o’r hen gerdd dant a arferai dra-arglwyddiaethu drwy’r byd Celtaidd. Mae’r nodiant cerddorol unigryw a atgynhyrchir yn y lawysgrif wedi trethi ysgolheictod dehonglwyr am ganrifoedd. Dyma’r dehongliad cyntaf i wneud synnwyr o’r lawysgrif gyfan. Mae’n ganlyniad degawdau o ymchwil trylwyr gan y telynor a’r cerddolegydd Peter Greenhill. Recordiwyd y gerddoriaeth yn Áras Éanna, Inis Oír, Swydd Galway dros gyfnod o 6 wythnos. Mae’r delyn a ddefnyddiwyd o gynllun canoloesol clasurol ac wedi’i seilio ar y Delyn Brian Boru – gyda thannau metel a blwch sain undarn wedi’i gerfio o gyff solet o helygen. Mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu mai dyma’r math o gerddoriaeth a ddisgrifiwyd yn 1188 gan Giraldus de Barri (Gerallt Gymro). Dyma’r casgliad cyntaf i gynnwys dim ond y gerddoriaeth fawreddog
hon ac mae’n ei gyflwyno i gynulleidfa eang ar ôl 400 mlynedd. |
|||||||
### |
![]() |
||||||
back to homepage |
|||||||
©pauldooley.com 2004 | |||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |